Skip to content

Gweithgaredd

Archwilio'r amgylchedd

Dechreuwr | MakeCode, Python | Meicroffon, Synhwyrydd golau, Synhwyrydd tymheredd | Gweithio'n wyddonol, Mesuriad, Mewnbwn/allbwn

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Trowch eich BBC micro:bit yn offeryn ar gyfer mesur tymheredd, golau a lefelau sain fel rhan o ymchwiliad gwyddoniaeth i'ch amgylchedd.

Cyflwyniad

Canllaw codio

Sut i'w ddefnyddio

  • Defnyddiwch y prosiect hwn i droi eich micro:bit yn thermomedr, a mesuryddion sain a golau ar gyfer cymryd mesuriadau mewn arbrofion gwyddoniaeth.
  • Trosglwyddwch y cod isod i'ch micro:bit, neu gwyliwch y fideo codio uchod os ydych chi am greu'r cod eich hun.
  • Cysylltwch becyn batri i'ch micro:bit ac rydych chi'n barod i ddechrau.
  • Gallwch ddefnyddio ein taflen cofnodi data ar gyfer cofnodi eich mesuriadau.

Tymheredd

Defnyddiwch y micro:bit fel thermomedr i fesur gwahaniaethau mewn tymheredd mewn gwahanol leoedd. Pwyswch y botwm A i ddangos y tymheredd mewn graddau Celsius ar y sgrîn. Mae’n syniad da gadael y micro:bit mewn lleoliad newydd am ychydig funudau i sicrhau eich bod yn cael darlleniad cywir.

Sain

I ddefnyddio’r micro:bit fel mesurydd lefel sain, pwyswch y botwm B i ddangos lefel y sain ar raddfa o 0 (tawelaf) i 255 (uchelaf).

Mae oedi byr cyn iddo gymryd y darlleniad sain i sicrhau nad yw sain pwyso'r botwm yn cael ei recordio.

Golau

I ddefnyddio'r micro:bit fel mesurydd golau, pwyswch y botymau A a B gyda'i gilydd. Mae'n dangos darlleniadau lefel golau, ar raddfa o 0 (tywyllaf) i 255 (goleuaf).

Dadansoddwch eich data

Awgrym: mae casglu cymaint o ddata ag y gallwch yn arfer gwyddonol da, felly efallai y byddwch chi am gymryd sawl darlleniad ym mhob lleoliad a chyfrifo cyfartaledd.

Unwaith y byddwch chi wedi cofnodi eich data gallwch chi ei ddadansoddi i ddod i gasgliadau. Beth sydd i'w ddysgu o'ch data am y lefelau tymheredd, sain a golau o'ch cwmpas?

Ble oedd y cynhesaf, yr oeraf, yr uchelaf, y tawelaf, y goleuaf neu'r tywyllaf a pha ffactorau allai fod wedi effeithio ar hyn?

Beth sydd ei angen arnoch

  • micro:bit
  • Golygydd MakeCode neu Python
  • pecyn batri
  • taflen cofnodi data, neu bapur arall
  • pen neu bensil

Taflen cofnodi data

Gellir defnyddio'r daflen cofnodi data i gofnodi eich mesuriadau.

Taflen cofnodi data
Lawrlwythwch y daflen gofnodi

Cam 2: Codio

1from microbit import *
2
3# The Python version of this project has sleep()
4# for each button press to make the A+B button work better
5
6while True:
7    if button_a.is_pressed() and button_b.is_pressed():
8        display.scroll(display.read_light_level())
9        sleep(200)
10    elif button_a.is_pressed():
11        display.scroll(temperature())
12        sleep(200)
13    elif button_b.is_pressed():
14        sleep(200)
15        display.scroll(microphone.sound_level())

Cam 3: Gwella

  • Ychwanegwch flociau ‘dangos llinyn’ i’w gwneud yn gliriach pan fydd darlleniadau tymheredd, sain a golau yn cael eu harddangos.
  • Gallwch addasu'r cod i ddangos darlleniadau tymheredd yn Fahrenheit - gweler ein prosiect thermomedr Fahrenheit am awgrymiadau ar sut i wneud hyn.
  • Os oes gennych y micro:bit V1, nad oes ganddo feicroffon, gallwch gael gwared ar y cod ar gyfer y botwm B a chymryd mesuriadau tymheredd a lefel golau.