Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Animeiddio eich lluniau eich hun ar ddangosydd y micro:bit.
Sut mae'n gweithio
- Mae'r rhaglen hon yn creu animeiddiad ar allbwn dangosydd LED y micro:bit gan ddefnyddio delwedd barod ac un rydych yn ei chreu eich hun.
- Yn gyntaf, mae'n dangos delwedd barod yr hwyaden ac wedyn mae'n dangos fersiwn wedi'i haddasu, a wneir drwy symud yr holl ddotiau (picseli) i lawr un rhes.
- Mae'n dangos y ddau lun gwahanol un ar ôl y llall, gydag oedi o hanner eiliad (500 milieiliad), i'w gwneud i edrych fel hwyaden yn mynd i fyny ac i lawr ar y dŵr.
- Mae dolen ddiderfyn yn gwneud i'r micro:bit ddangos dilyniant y ddelwedd nes i chi ddad-blygio'r micro:bit.
- Mae defnyddio dolennau mewn rhaglenni cyfrifiadurol yn cael ei adnabod fel iteriad. Maent yn eich helpu i greu cod cryno effeithlon heb fod angen ailadrodd yr un cyfarwyddiadau.
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
- Golygydd MakeCode neu Python
- pecyn batri (opsiynol)
- papur graff neu daflen cynllunio LED opsiynol i dynnu braslun o'ch dyluniadau ar gyfer eich anifail eich hun
Cam 2: Codio
Cam 3: Gwella
- Rhowch gynnig ar addasu ac animeiddio gwahanol ddelweddau parod megis JIRÁFF a CWNINGEN.
- Creu eich delweddau eich hun o'r cychwyn cyntaf gan ddefnyddio papur graff neu ein taflen gynllunio LED i dynnu braslun o'ch dyluniadau.
- Gwneud dilyniannau animeiddio hwy i ddweud stori.
- Yn Python, defnyddio rhifau gwahanol i newid disgleirdeb gwahanol bicseli. 9 yw'r mwyaf disglair, 1 yw'r lleiaf disglair a 0 yw i ffwrdd.
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.
Translation generously supported by the Welsh Government.