Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Gwneud cwmpawd sy'n gwneud sain pan fyddwch yn pwyntio at y Gogledd i'w wneud yn fwy hygyrch a defnyddiol.
Cyflwyniad
Canllaw codio
Beth fyddwch yn ei ddysgu
- Sut i ddefnyddio darlleniadau cwmpawd o synhwyrydd magnetomedr y micro:bit
- Sut i ddefnyddio newidynnau, dewis, cymariaethau a rhesymeg i sbarduno digwyddiadau pan fydd darlleniadau synhwyrydd mewn ystod o rifau
Sut mae'n gweithio
- Mae dolen yn gwneud i'r micro:bit barhau i wirio pa gyfeiriad rydych yn ei wynebu. Mae'n storio hyn mewn newidyn a elwir yn cyfeiriad.
- Os yw'r cyfeiriad rhwng 355 a 5 gradd, rydych yn wynebu'r Gogledd felly bydd yn dangos G ar y dangosydd LED ac yn bib-bibian.
- Os oes gennych micro:bit newydd, gallwch glywed y sain ar y seinydd parod, fel arall, gallwch gysylltu clustffonau â phin 0 a'r GND.
- Os nad ydych yn wynebu'r Gogledd, bydd yn clirio'r dangosydd ac yn stopio'r sain.
- Gallwch hefyd wasgu botwm A i weld darlleniadau cwmpawd ar y dangosydd LED os nad ydych yn wynebu'r Gogledd.
- Yn ôl pob tebyg, gofynnir i chi chwarae gêm fach pan fyddwch yn defnyddio prosiect cwmpawd ar eich micro:bit am y tro cyntaf. Gwyro'r sgrin i oleuo pob LED ar y dangosydd. Mae hyn yn graddnodi'r cwmpawd ac yn sicrhau ei fod yn gweithio'n gywir.
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit
- Golygydd MakeCode neu Python
- pecyn batri (opsiynol)
Cam 2: Codio
Cam 3: Gwella
- Chwarae gwahanol nodau gan ddibynnu ar ba ffordd rydych yn ei hwynebu: De, Dwyrain neu Orllewin.
- Ychwanegu gwasgu botwm arall i raddnodi'r cwmpawd eto os byddwch yn meddwl nad yw'n fanwl gywir. Yn MakeCode, byddwch yn gweld y bloc 'graddnodi cwmpawd' o dan Mewnbwn... mwy. Yn Python, defnyddio
cwmpawd.graddnodi()
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.
Translation generously supported by the Welsh Government.