Skip to content

Gweithgaredd

Calon

Dechreuwr | MakeCode, Python | Dangosydd LED | Mewnbwn/allbwn

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Goleuo'ch micro:bit â chariad drwy ddangos calon.

Mae'r ddau fideo hyn yn dangos i chi yr hyn y byddwch yn ei greu a sut i'w godio:

Cyflwyniad

Canllaw codio

Sut mae'n gweithio

  • Mae hwn yn brosiect cyntaf gwych i ddysgu sut i raglennu'ch micro:bit!
  • Pan fydd y rhaglen yn cael ei throsglwyddo (ei fflachio) i'ch micro:bit, bydd y prosesydd yn mynd trwy'r cyfarwyddiadau a roddoch iddo.
  • Mae'r rhaglen yn dangos llun o galon ar allbwn dangosydd LED y micro:bit.
  • Mae'r galon yn aros ar y dangosydd cyhyd â bod ganddo bŵer oherwydd nad ydych wedi rhoi unrhyw gyfarwyddiadau pellach iddo i ddangos unrhyw beth arall.
  • Mae gan y micro:bit set o ddelweddau parod eraill gallwch eu defnyddio yn eich prosiectau.
  • Gwneir lluniau ar sgriniau cyfrifiaduron, ffonau a thabledi gan ddefnyddio dotiau a elwir yn 'picseli'. Mae gan ddangosydd y micro:bit 25 picsel LED wedi’u trefnu mewn grid 5 x 5.

Beth sydd ei angen arnoch

  • micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
  • Golygydd MakeCode neu Python
  • Cebl USB os ydych yn defnyddio cyfrifiadur
  • pecyn batri (os ydych yn defnyddio ffôn neu dabled).

Cam 2: Codio

Cam 3: Gwella

  • Rhowch gynnig ar ddewis lluniau parod eraill megis HAPPY (hapus), DUCK (hwyaden) neu GHOST (ysbryd).
  • Ydych yn gallu dangos mwy nag un delwedd?
  • Gweld a allwch wneud eich lluniau eich hun drwy archwilio'r prosiectau eraill isod.
Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.