Skip to content

Gweithgaredd

Tywysydd curiad calon

Canolradd | MakeCode, Python | Dangosydd LED, Radio | Cyfathrebu, Iteriad, Tonnau radio

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Gyda dau micro:bit, gallwch gadw golwg ar eiddo neu anifail anwes gwerthfawr gan ddefnyddio negeseuon radio.

Un micro:bit yn anfon delwedd o galon i un arall drwy radio

Sut mae'n gweithio

  • Mae'n defnyddio dwy raglen, rhaglen trosglwyddo (tywysydd) a derbynnydd.
  • Fflachiwch y rhaglen trosglwyddo ar y micro:bit cyntaf, cysylltwch y micro:bit cyntaf â phecyn batri a'i roi yn neu ar eich peth gwerthfawr.
  • Gan ddefnyddio dolen ddiderfyn, mae'n darlledu neges 'helo' pŵer isel drwy radio ar grŵp 73 bob 2 eiliad. (Gallwch ddefnyddio unrhyw rif grŵp radio o'ch dewis rhwng 0 a 255, gwnewch yn siŵr bod y rhaglen derbyn yn defnyddio'r un rhif. Mae grwpiau fel sianeli ar y teledu neu set radio symud a siarad.)
  • Bydd y rhaglen derbyn yn dangos calon i chi ar allbwn y dangosydd LED am 1 eiliad bob tro y bydd yn derbyn neges ar yr un sianel. Oherwydd ein bod yn defnyddio trosglwyddydd pŵer isel mae'n rhaid i chi fod yn eithaf agos at y trosglwyddydd i'w weld, felly byddwch yn gwybod bod eich peth gwerthfawr gerllaw.

Beth sydd ei angen arnoch

  • 2 micro:bit
  • Golygydd MakeCode neu Python
  • O leiaf 1 pecyn batri
  • rhywbeth gwerthfawr i gadw golwg arno

Cam 2: Codio

Trosglwyddydd

1from microbit import *
2import radio
3radio.config(group=73, power=1)
4radio.on()
5
6while True:
7    radio.send('hello')
8    sleep(2000)
9

Derbynnydd

1from microbit import *
2import radio
3radio.config(group=73)
4radio.on()
5
6while True:
7    message = radio.receive()
8    if message:
9        display.show(Image.HEART)
10        sleep(1000)
11        display.clear()
12

Cam 3: Gwella

  • Cynyddu'r cwmpas drwy gynyddu pŵer y trosglwyddydd radio. Gall y pŵer fod yn unrhyw rif o 0 i 7.
  • Gwneud i galon 'guro’ ar ddangosydd LED y trosglwyddydd yn ogystal â'r derbynnydd.
  • Gallech ddefnyddio'r rhaglenni hyn fel gêm helfa drysor syml - cuddiwch y trosglwyddyddion a herio ffrind i ddod o hyd iddynt.
Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.