Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Trowch eich micro:bit yn addurn Nadoligaidd sy'n dangos seren yn fflachio ar y sgrîn LED cyn gynted ag y bydd yn tywyllu.
Mae'r ddau fideo hyn yn dangos i chi yr hyn y byddwch yn ei greu a sut i'w godio:
Sut mae'n gweithio
- Mae'r rhaglen yn defnyddio synhwyrydd golau micro:bit i fesur lefelau golau.
- Yna mae'n defnyddio bloc rhesymeg “if then else”.
- Os yw'r lefelau golau yn llai na 100, mae'r micro:bit yn cael ei gyfarwyddo i ddangos dau eicon – seren fawr yna seren fach gyda seibiau yn y canol – mewn dolen am byth ar y sgrîn LED. Mae hyn yn creu'r animeiddiad.
- Maedolen ddiddiwedd mewn rhaglen gyfrifiadurol yn gyfarwyddyd sy'n ailadrodd am byth.
- Os yw'r lefelau golau yn fwy na 100, dywedir wrth y micro:bit i glirio'r sgrîn.
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
- Golygydd MakeCode
- pecyn batri (dewisol ond argymhellir)
- efallai y bydd ein canllaw sefydlu yn ddefnyddiol
Cam 2: Codio
1# Imports go at the top
2from microbit import *
3
4while True:
5    if display.read_light_level() < 100:
6        display.show(Image('90909:'
7                           '09990:'
8                           '99999:'
9                           '09990:'
10                           '90909'))
11        sleep(500)
12        display.show(Image('00000:'
13                       '09090:'
14                       '00900:'
15                       '09090:'
16                       '00000'))
17        sleep(500)
18    else: display.clear()
19    sleep(500)
20   Cam 3: Gwella
- Addaswch y trothwy y mae'r animeiddiad yn chwarae arno i weddu i'ch ystafell yn well.
- Dywedwch wrth eich micro:bit i chwarae sain Nadoligaidd ar bwyso'r botwm A.
- Gwnewch brosiectau Nadoligaidd eraill fel jiwcbocs sy'n canu alawon Nadoligaidd, neu larwm sy'n dod ymlaen pan fydd Siôn Corn yn cyrraedd Noswyl Nadolig!

