Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Gwneud eich sioe goleuadau disgo eich hun â'r micro:bit newydd! Mae'r goleuadau LED yn curo mewn amser i gerddoriaeth mae'r meicroffon parod yn ei chanfod. Po uchaf yw'r sain po fwyaf maent yn disgleirio.
Cyflwyniad
Canllaw codio
Beth fyddwch yn ei ddysgu
- Sut i ddefnyddio synhwyrydd meicroffon parod y micro:bit newydd i fesur pa mor uchel yw'r sain
- Sut i amrywio disgleirdeb allbwn y dangosydd LED mewn ymateb i ddarlleniadau mewnbwn synhwyrydd
Sut mae'n gweithio
- Mae'r meicroffon yn mesur maint y sain mae'n ei godi fel rhifau o 0-255. 0 yw'r sain tawelaf, 255 yw'r uchaf.
- Mae pob un o'r LEDs ar y dangosydd wedi'u troi ymlaen pan fydd y rhaglen yn dechrau.
- Gellir hefyd gosod disgleirdeb yr LEDs gan ddefnyddio rhifau o 0-255. 0 yw'r tywyllaf (i ffwrdd) a 255 yw'r mwyaf disglair.
- Mae dolen yn gosod disgleirdeb LEDs yn gyson i gyd-fynd â maint y sain mae'r synhwyrydd meicroffon yn ei ganfod.
- Po uchaf yw'r sain, y mwyaf disglair mae'n gwneud i'r LEDs ddisgleirio.
- Fflachio'r rhaglen hon ar micro:bit newydd â sain, chwarae ychydig o gerddoriaeth gyda churiad cryf a gwylio'r goleuadau'n curo mewn amser i'r gerddoriaeth!
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit newydd â sain (neu efelychwr MakeCode)
- Golygydd MakeCode neu Python
- pecyn batri (opsiynol)
Cam 2: Codio
Cam 3: Gwella
- Addasu'r rhaglen i ddefnyddio eich delweddau neu batrymau eich hun
- Os ydych mewn dosbarth neu grŵp, fflachiwch y rhaglen ar sawl micro:bit, pylu'r goleuadau, chwarae ychydig o gerddoriaeth a chael sioe goleuadau!
- Allwch wneud i'r goleuadau fynd yn dywyllach â seiniau uwch?
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.
Translation generously supported by the Welsh Government.