Skip to content

Gweithgaredd

Dewisydd gweithgareddau

Dechreuwr | MakeCode, Python | Botymau, Dangosydd LED | Ar hap, Dewis, Newidynnau

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Yn ei chael hi'n anodd penderfynu neu gytuno ar yr hyn i'w wneud? Gadewch i'r rhaglen micro:bit hon ddewis ar eich cyfer!

Mae'r ddau fideo hyn yn dangos i chi yr hyn y byddwch yn ei greu a sut i'w godio:

Cyflwyniad

Canllaw codio

Sut mae'n gweithio

  • Mae gwasgu botwm A yn gwneud i'ch micro:bit ddewis rhif ar hap rhwng 1 a 6.
  • Mae'n cadw'r rhif mewn newidyn a elwir yn random_number.
  • Mae'r rhaglen yn profi'r rhif ar hap gan ddefnyddio dewis. Gan ddibynnu ar y rhif, dangosir gweithgareddau gwahanol.
  • Nid yw'n profi'n benodol os mai 6 yw'r rhif ar hap - pam hynny?

Beth sydd ei angen arnoch

  • micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
  • Golygydd MakeCode
  • pecyn batri (opsiynol)

Cam 2: Codio

1from microbit import *
2import random
3
4while True:
5    if button_a.is_pressed():
6        random_number = random.randint(1, 6)
7        if random_number == 1:
8            display.scroll('PE with Joe')
9        elif random_number == 2:
10            display.scroll('watch a movie')
11        elif random_number == 3:
12            display.scroll('play a board game')
13        elif random_number == 4:
14            display.scroll('tidy our rooms')
15        elif random_number == 5:
16            display.scroll('play a card game')
17        else:
18            display.scroll('learn a song')

Cam 3: Gwella

  • Addaswch hyn drwy roi eich gweithgareddau eich hun yn y cod.
  • Ychwanegu mwy o weithgareddau.
  • Sut gallech ei gwneud yn llai tebygol ei fod yn dweud wrthych i dacluso'ch ystafell?
Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.