Skip to content

Gweithgaredd

Golau nos

Dechreuwr | MakeCode, Python | Dangosydd LED, Synhwyrydd golau | Dewis, Golau, Iteriad, Mewnbwn/allbwn, Synwyryddion, Systemau a rheolaeth

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Golau nos sy'n goleuo sgrîn LED eich BBC micro:bit yn y tywyllwch.

Cyflwyniad

Canllaw codio

Mae’r prosiect hwn yn defnyddio LEDs y micro:bit fel synhwyrydd golau i wneud golau sy’n troi ymlaen yn awtomatig pan fydd yn tywyllu.

Mae synhwyrydd golau y micro:bit yn mesur golau mewn ystod o 0 (tywyll iawn) i 255 (llachar iawn).

Sut mae'n gweithio

  • Mae dolen ddiddiwedd yn y cod yn cadw'r micro:bit yn gwirio lefelau golau.
  • Mae'n defnyddio rhesymeg i benderfynu a ddylid troi'r LEDs ymlaen neu eu diffodd. Mae cyfarwyddyd amodol (if… then… else) yn gwneud y penderfyniad i droi’r goleuadau LED ymlaen neu eu diffodd.
  • Os (if) yw lefel y golau yn disgyn o dan 100, yna (then) mae'n goleuo'r LEDs ar sgrîn y micro:bit. Fel arall (else), mae'n clirio'r sgrîn i ddiffodd y goleuadau LED.
  • Profwch e trwy orchuddio'r sgrîn neu daflu golau arno, a gweld a yw'r LEDs yn goleuo pan fydd hi'n dywyll.
  • Efallai y bydd angen i chi newid y rhif 100 yn dibynnu ar y lefelau golau o'ch cwmpas. Bydd rhifau mwy yn gwneud i'r golau ddod ymlaen yn haws. Dim ond pan fydd hi'n dywyll iawn y bydd rhifau llai yn gwneud i'r golau ddod ymlaen.

Beth sydd ei angen arnoch

  • micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
  • Golygydd MakeCode neu Python
  • pecyn batri (opsiynol)
  • ffynhonnell golau a rhywbeth i'w ddefnyddio i orchuddio'r micro:bit

Cam 2: Codio

1from microbit import *
2
3while True:
4    if display.read_light_level() < 100:
5        display.show(Image(
6        "99999:"
7        "99999:"
8        "99999:"
9        "99999:"
10        "99999"))
11    else:
12        display.clear()
13    sleep(2000)
14

Cam 3: Gwella

  • Newid y ddelwedd i ddangos lleuad neu seren pan fydd yn tywyllu.
  • Atodi'r micro:bit i'ch bag neu ddillad i ddefnyddio hyn fel golau diogelwch ychwanegol wrth gerdded neu seiclo - allwch chi wneud iddo fflachio i fod yn fwy amlwg?
  • Try this MakeCode project that makes the LED display get lighter and darker depending on the amount of light falling on the micro:bit. Ble arall rydych wedi gweld pethau eraill sy'n ymateb i olau yn y ffordd hon?