Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Mesur pa mor hir y mae curo dwylo - neu unrhyw sŵn uchel - yn parhau â'r amserydd hwn sy'n defnyddio'r meicroffon ar y micro:bit newydd.
Cyflwyniad
Canllaw codio
Beth fyddwch yn ei ddysgu
- Sut i sbarduno digwyddiadau pan fesurir synau uchel a thawel gan y meicroffon.
- Sut i ddefnyddio amserydd parod y micro:bit
- Sut i osod y trothwy ar gyfer digwyddiadau uchel a thawel
Sut mae'n gweithio
- Ar ddechrau'r rhaglen, gosodir y trothwy ar gyfer sbarduno digwyddiad sŵn uchel. Defnyddio rhifau mwy fel bod angen synau uwch, rhifau llai ar gyfer synau llai. Gallwch ddefnyddio unrhyw rif o 0 i 255.
- Gosodir newidyn a elwir yn start i 0. Fe'i defnyddir i olrhain pan fydd y sŵn uchel yn dechrau.
- Pan fydd y meicroffon yn synhwyro sŵn uchel, wedyn gosodir y newidyn start i amser rhedeg presennol y micro:bit a dangosir eicon ar y dangosydd LED fel eich bod yn gwybod bod yr amserydd wedi dechrau.
- Mae amser rhedeg yn fesur o ba mor hir y mae eich micro:bit wedi bod yn rhedeg eich rhaglen mewn milieiliadau (milfed ran o eiliad).
- Pan fydd y sŵn uchel yn stopio, sbardunir digwyddiad sŵn tawel.
- Os oes digwyddiad uchel wedi bod yn barod, a bod yr amserydd wedi dechrau, bydd gan y newidyn start werth sy'n fwy na (>) 0. Yn yr achos hwn, gosodir newidyn a elwir yn time i'r amser rhedeg presennol newydd minws yr amser dechrau. Mae'n dweud wrthym am ba mor hir roedd y sŵn uchel wedi parhau.
- Oherwydd bod yr amser yn cael ei fesur mewn milieiliadau, mae'r rhaglen yn ei rannu â 1000 i'w drosi i eiliadau ac yn ei arddangos ar y dangosydd LED.
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit
- Golygydd MakeCode neu Python
- pecyn batri (opsiynol)
Cam 2: Codio
1from microbit import *
2microphone.set_threshold(SoundEvent.LOUD, 150)
3start = 0
4
5while True:
6 if microphone.was_event(SoundEvent.LOUD):
7 start = running_time()
8 display.show(Image.TARGET)
9
10 if microphone.was_event(SoundEvent.QUIET):
11 if start > 0:
12 time = running_time() - start
13 start = 0
14 display.clear()
15 sleep(100)
16 display.scroll(time / 1000)
Cam 3: Gwella
- Arbrofi gyda gwahanol drothwyau ar gyfer digwyddiadau sŵn uchel ac isel i ddod o hyd i'r gwerthoedd sy'n gweithio orau i chi.
- Ychwanegu cod o'r prosiectau Cofnodi sŵn fel y gallwch hefyd fesur pa mor uchel oedd y curo dwylo.
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.
Translation generously supported by the Welsh Government.