Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Gwneud i feicroffon y micro:bit newydd ymateb i guro dwylo a churiadau gyda sioe olau wedi'i hanimeiddio.
Cyflwyniad
Canllaw codio
Beth fyddwch yn ei ddysgu
- Sut mae cyfrifiaduron yn defnyddio mewnbynnau, eu prosesu gan ddefnyddio cod a chreu gwahanol allbynnau
- Sut i ddefnyddio synhwyrydd meicroffon parod y micro:bit newydd i sbarduno digwyddiadau yn eich cod
- Gellir defnyddio meicroffon y micro:bit i ymateb i synau tawel ac uchel
Sut mae'n gweithio
- Pan fydd y meicroffon yn synhwyro sŵn uchel megis curo dwylo, mae'n dangos calon fawr ar y dangosydd LED.
- Os bydd yn synhwyro sŵn tawel er enghraifft ar ôl i chi orffen curo dwylo, bydd yn dangos calon fach.
- Effaith hyn yw creu animeiddiad calon syml sy'n ymateb i guro dwylo neu guriadau cryf mewn cerddoriaeth.
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit newydd â sain (neu efelychwr MakeCode)
- Golygydd MakeCode neu Python
- pecyn batri (opsiynol)
Cam 2: Codio
Cam 3: Gwella
- Creu eich animeiddiad eich hun gan ddefnyddio eiconau eraill neu dynnu eich lluniau eich hun.
- Gwneud i'r micro:bit ymateb i sŵn uchel drwy wneud ei sŵn ei hun. A yw hyn yn achosi unrhyw broblemau? Sut gallwch eu cywiro?
- Gallwch newid lefel y sŵn sy'n sbarduno digwyddiad sŵn uchel. Gelwir y lefel hon yn drothwy. Yn MakeCode, defnyddiwch y bloc mewnbwn 'gosod trothwy sŵn uchel i...' i ddewis gwahanol lefelau sŵn i'w wneud yn fwy neu'n llai sensitif i synau uchel.
- Yn Python, i newid y trothwy ar gyfer synau uchel defnyddiwch
microphone.set_threshold(SoundEvent.LOUD, 128)
- gan newid y rhif 128 i'r gwerth o'ch dewis rhwng 0 a 255.
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.
Translation generously supported by the Welsh Government.