Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Yn ei chael hi'n anodd penderfynu neu gytuno ar yr hyn i'w wneud? Defnyddio araeau i greu rhaglen micro:bit sy'n dewis ar eich cyfer!
Sut mae'n gweithio
- Mae'ch micro:bit yn cadw rhestr o'ch gweithgareddau posibl mewn rhestr (neu arae) a elwir yn 'opsiynau'. Mae araeau yn ffyrdd defnyddiol iawn o gadw data mewn rhestrau.
- Pan fyddwch yn gwasgu botwm A bydd yn dewis eitem o'r rhestr ar hap ac yn ei dangos ar y dangosydd LED.
- Mae defnyddio arae'n ei gwneud hi'n hawdd iawn addasu'r cod i ychwanegu mwy o opsiynau at y rhestr.
- Oherwydd bod y cod yn mesur pa mor hir yw'r arae, nid oes fyth angen i chi addasu'r cod rhif ar hap, rydych yn gallu ychwanegu pethau a thynnu pethau o'r rhestr.
- Mae'n dewis rhif ar hap ac yn ei gadw mewn newidyn a elwir yn 'choice'. Bydd y rhif rhwng 0 ac un yn llai na hyd yr arae oherwydd bod cyfrifiaduron fel arfer yn dechrau cyfrif eitemau mewn araeau o 0. 'PE with Joe' yw eitem rhif 0 yn y rhestr, yr eitem olaf 'pobi teisen' yw eitem rhif 5 ond mae'r arae yn cynnwys 6 eitem.
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
- Golygydd MakeCode
- pecyn batri (opsiynol)
Cam 2: Codio
Cam 3: Gwella
- Addaswch hyn drwy roi eich gweithgareddau eich hun yn y cod.
- Sut gallech ei gwneud yn fwy tebygol i ddewis eich hoff weithgaredd?
- Rhowch gynnig ar ysgrifennu'r un rhaglen yn Python.
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.
Translation generously supported by the Welsh Government.