Cam 1: Cyflwynwch
Yn gyntaf, gwyliwch y fideo
Ewch i BBC Teach i wylio fideo'r gweithgaredd arolwg iard chwarae a lawrlwytho'r set gyflawn o gyfarwyddiadau i athrawon.

Sut mae'n gweithio
- Mae'r rhaglen hon yn cyfrifo pellteroedd trwy luosi hyd cam â nifer y camau a gymerwch.
- Defnyddiwch yr hyd cam cyfartalog a ddarperir, neu cyfrifwch hyd cam cyfartalog eich dosbarth mewn metrau, a'i fewnbynnu wrth godio eich micro:bit.
- Mae'r rhaglen yn gweithio drwy gynyddu'r newidyn 'step count' 1 bob tro y caiff botwm A ei wasgu.
- Mae disgyblion yn rhannu'r iard chwarae yn betryalau, yna'n cerdded hyd a lled pob petryal yn ofalus, gan bwyso'r botwm A bob tro y byddant yn cymryd cam.
- Maen nhw'n pwyso'r botwm B i weld y pellter maen nhw wedi'i gerdded mewn metrau.
- Ailosodwch y micro:bit ar ôl pob pellter, trwy wasgu'r botwm ailosod du ar y cefn.

Beth sydd ei angen arnoch
- Taflenni gwaith disgyblion ar gyfer yr arolwg iard chwarae ar gyfer recordio a beiros neu bensiliau
- micro:bit a phecyn batri ar gyfer pob disgybl, pâr neu grŵp bach
- Golygydd MakeCode i godio (dewisol) neu ffeil hecs wedi'i lawrlwytho yn barod i'w defnyddio
- I roi cod ar eich micro:bit bydd angen un o'r canlynol arnoch:
- cyfrifiadur (e.e. gliniadur neu Chromebook) a chebl USB micro:bit
- llechen Android gyda'r cebl USB micro:bit ac addasydd (erthygl cymorth gyda mwy o fanylion)
- iPad Apple gyda Bluetooth wedi'i alluogi a'r ap micro:bit (erthygl cymorth gyda mwy o fanylion ar gyfer iPads Apple)

Cam 2: Codio
Mae'r fideo cam wrth gam hwn yn dangos i chi sut i godio'ch micro:bit i ddod yn gyfrifiannell pellter:
Gwnewch ef yn eiddo i chi'ch hun
- Cyfrifwch hyd cam cyfartalog eich dosbarth ac addaswch y cod i ddefnyddio'r rhif hwnnw yn lle hynny. Gweler y cyfarwyddiadau i athrawon am gefnogaeth.
- Personoleiddiwch trwy ychwanegu sain i ddathlu'ch cyfanswm pan fyddwch chi'n pwyso'r botwm B.
- Ychwanegwch gardbord i wneud y botymau'n haws i'w pwyso, fel y gwelir yn yr adran Gwella o'r Prosiect bathodyn emosiwn.
- Defnyddiwch y cod hwn cyfrifiannell pellter cadair olwyn sy'n gallu canfod yn awtomatig pan fydd eich olwyn yn cylchdroi.
Cam 3: Defnyddiwch
Casglwch ddata yn eich iard chwarae
Trosglwyddwch y cod, a phlygiwch eich pecyn batri i mewn i ddechrau.
Dilynwch y cyfarwyddiadau i athrawon ar y sesiwn gwaith maes hwn.
Anogwch y disgyblion i wneud rhagfynegiadau yn seiliedig ar eu gwybodaeth fathemategol gyfredol cyn i chi ddechrau.
Sylwch ar yr hyd a'r lled a fesurwyd ar y daflen waith disgyblion arolwg iard chwarae.

Cam 4: Dadansoddi a defnyddio data
Ar ôl i chi gyfrifo arwynebedd pob petryal bach drwy luosi'r hyd â'r lled, cofnodwch nhw ar y daflen waith disgybl a rhannwch eich mesuriadau gyda'ch dosbarth.
Gan weithio gyda'ch gilydd, cyfrifwch arwynebedd dosbarth cyfartalog yr iard chwarae gyfan a'i gofnodi ar y poster dosbarth ar gyfer yr arolwg iard chwarae.
Defnyddiwch y cyfarwyddiadau i athrawon i gefnogi dadansoddi'r data gyda'ch gilydd yn y dosbarth. Gallech ofyn y cwestiynau canlynol:
Cysylltwch yn ôl i'r hyn yr oeddem am ei ddarganfod:
- Beth yw arwynebedd ein iard chwarae?
- A oedd ein rhagfynediadau yn gywir?
Ystyriwch ein gofod iard chwarae:
- Sut ydych chi'n meddwl y bydd hyn yn cymharu ag iardau chwarae eraill yn y DU?
- A oes heriau i ni o ran sut rydym yn defnyddio’r gofod?
- Ydych chi'n meddwl ein bod ni'n defnyddio'r holl ofod sydd gennym ni?
Edrych ymlaen:
- Pa gamau gweithredu ydyn ni am eu cymryd yn seiliedig ar ein canfyddiadau?