Cyflwyniad
Dechrau arni gyda'r micro:bit mewn ychydig o gamau syml
Dysgu sut i gael y micro:bit i weithio, rhaglennu ei nodweddion a chreu eich prosiectau cyntaf.
Cyfrifiadur maint poced yw'r BBC micro:bit sy'n eich cyflwyno i sut mae meddalwedd a chaledwedd yn gweithio gyda'i gilydd. Mae ganddo ddangosydd golau LED, botymau, synwyryddion a llawer o nodweddion mewnbwn/allbwn sydd, pan fyddant wedi'u rhaglennu, yn galluogi iddo ryngweithio â chi a'ch byd.
Mae'r micro:bit newydd â sain yn ychwanegu meicroffon a seinydd parod, yn ogystal â botwm mewnbwn cyffwrdd ychwanegol a botwm pŵer. Dysgu mwy yn y fideo hwn:
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit a phecyn batri gyda 2 fatri AAA
- Cyfrifiadur, ffôn neu dabled â mynediad at y rhyngrwyd i lwytho'r golygyddion cod Microsoft MakeCode neu Python
- Os byddwch yn defnyddio cyfrifiadur, bydd angen cebl USB i gysylltu â'ch micro:bit
- Ar gyfer adeiladu a gwneud prosiectau â'ch micro:bit, byddai'n wych cael rhai eitemau ychwanegol, yn cynnwys clustffonau, ceblau clipiau crocodeil a deunyddiau dargludol megis ffoil alwminiwm a chlipiau papur.
Dysgu sut mae cyfrifiaduron yn gweithio
Mae'r micro:bit yn eich helpu i ddeall sut mae cyfrifiaduron yn gweithio. Pan fyddwch yn teipio ar eich gliniadur neu'n cyffwrdd y sgrin ar eich ffôn, rydych yn defnyddio dyfais fewnbwn Mae mewnbynnau yn caniatáu i gyfrifiaduron synhwyro pethau sy'n digwydd yn y byd go iawn, fel y gallant weithredu ar hyn a gwneud i rywbeth ddigwydd, fel arfer ar allbwn megis sgrin neu glustffonau.
Rhwng y mewnbwn a'r allbwn, mae'r prosesydd. Mae hwn yn cymryd gwybodaeth o fewnbynnau fel botymau, ac yn gwneud i rywbeth ddigwydd ar allbynnau, megis chwarae cân yn eich clustffonau.
Mae'r fideos hyn yn esbonio sut mae mewnbynnau, allbynnau a phrosesydd y micro:bit yn gweithio yn union fel y rhai ar eich ffôn neu'ch cyfrifiadur:
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.

Translation generously supported by the Welsh Government.