Skip to content

Gweithgaredd

Bathodyn enw

Dechreuwr | MakeCode, Python | Dangosydd LED | Algorithmau, Iteriad, Mewnbwn/allbwn

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Trowch eich BBC micro:bit yn fathodyn enw sgrolio gyda dim ond ychydig o gyfarwyddiadau.

Cyflwyniad

Canllaw codio

Sut mae'n gweithio

  • Mae'r prosiect hwn yn gyflwyniad gwych i godio'r micro:bit.
  • Byddwch yn darganfod pa mor hawdd yw hi i greu setiau o gyfarwyddiadau, neu algorithmau, mewn cod, sef iaith y gall cyfrifiadur fel micro:bit ei deall.
  • Mae'r rhaglen y byddwch chi'n ei chreu yn sgrolio testun ar draws y sgrîn i ddangos eich enw.
  • Mae'n defnyddio dolen ddiddiwedd sy'n cadw'ch enw i sgrolio ar allbwn sgrîn LED y micro:bit nes i chi ddad-blygio'r micro:bit o'i fatri neu gebl USB.

Beth sydd ei angen arnoch

  • micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
  • Golygydd MakeCode neu Python
  • pecyn batri (opsiynol)

Cam 2: Codio

1from microbit import *
2
3while True:
4    display.scroll('Amari')
5

Cam 3: Gwella

  • Ychwanegwch fwy o flociau ‘dangos llinyn’ i ddweud mwy amdanoch chi’ch hun.
  • Ychwanegwch floc ‘dangos eicon’ i ddangos sut rydych chi’n teimlo neu fynegi eich personoliaeth.
  • Dyluniwch ffordd o wisgo'ch bathodyn micro:bit gan ddefnyddio edau, tâp neu felcro. (Peidiwch â defnyddio pinnau diogelwch gan gallai'r metel ddifrodi eich micro:bit.)