Skip to content

Dechrau arni: Troi ymlaen a chwarae

Dechrau arni

2. Troi ymlaen a chwarae

Trowch eich micro:bit ymlaen i archwilio holl nodweddion anhygoel y ddyfais trwy'r rhaglen 'cwrdd â'r micro:bit' sydd wedi'i llwytho ymlaen llaw.

Troi eich micro:bit ymlaen

Ychwanegwch 2 fatri AAA i'r pecyn batri, a'i gysylltu â'ch micro:bit.

Bydd eich micro:bit yn troi ymlaen yn awtomatig.

Sylwer: gallwch chi hefyd bweru'ch micro:bit trwy gysylltu'r cebl USB â chyfrifiadur, heb ddefnyddio'r pecyn batri.

line drawing showing the two steps of batteries being put into a battery pack then the battery pack being connected to a micro:bit

Croeso i'ch micro:bit

Mae pob micro:bit newydd yn cael ei ddosbarthu gyda rhaglen ‘cwrdd â'r micro:bit’ i’ch helpu i archwilio nodweddion allweddol.

Pan fydd yn troi ymlaen, bydd yr allbwn sgrîn LED yn ymddangos ac, yn y rhan fwyaf o achosion, bydd yn eich cyfarch â chalon.

Micro:bit yn dangos eicon calon ar y LEDs

Croeso i'ch micro:bit

Mae pob micro:bit newydd yn cael ei ddosbarthu gyda rhaglen ‘cwrdd â'r micro:bit’ i’ch helpu i archwilio nodweddion allweddol.

Pan fydd yn troi ymlaen, bydd y rhaglen ‘cwrdd â’r micro:bit’ hon yn dechrau. Ar ôl ychydig eiliadau, byddwch yn gweld saeth yn pwyntio at fotwm A neu'r llythyren A fel y dangosir yma.

Micro:bit yn dangos y llythyren A

Archwilio'r rhaglen ‘cwrdd â’r micro:bit’

Pwyswch A, B ac A+B

Hefyd, rhowch gynnig arni gyda'r ddyfais wedi'i gorchuddio/yn y tywyllwch.

Ysgwydwch y micro:bit

Mae'r mesurydd cyflymu integredig yn canfod symudiad.

Cyffyrddwch â'r logo micro:bit

Dywedwch ychydig eiriau ac yna rhyddhewch y logo.

Pwyswch A yna B

Gwyliwch sut mae'r micro:bit yn ymateb

Ysgwydwch y micro:bit

Mae'r mesurydd cyflymu integredig yn canfod symudiad

Gogwyddwch y micro:bit

Gwnewch i'r 2 ddot gwrdd

Clapiwch 5 gwaith

Mae'r micro:bit yn cyfrif eich clapiau

Pwyswch A yna B

Gwyliwch sut mae'r micro:bit yn ymateb

Ysgwydwch y micro:bit

Mae'r mesurydd cyflymu integredig yn canfod symudiad

Gogwyddwch y micro:bit

Gwnewch i'r 2 ddot gwrdd

Pwyswch A, B ac A+B

Hefyd, rhowch gynnig arni gyda'r ddyfais wedi'i gorchuddio/yn y tywyllwch.

Ysgwydwch y micro:bit

Mae'r mesurydd cyflymu integredig yn canfod symudiad.

Awgrym: Diffodd eich micro:bit

Daliwch y botwm ailosod nes bod y golau'n diffodd (tua 4 eiliad) i ddiffodd eich micro:bit. Diffoddwch ar ddiwedd pob defnydd i arbed pŵer batris (neu dad-blygiwch y pecyn batri).

Micro:bit gyda'r botwm ailosod yn cael ei bwyso

Da iawn! Rydych chi wedi dysgu sut i droi'r micro:bit ymlaen a rhyngweithio ag e.

Nesaf, dechreuwch godio gyda'r micro:bit
3Dechrau codio