Cymryd rhan gyda micro:bit y BBC: NextGen – Cewri Codio

Bydd y weminar 30 munud yma yn cyflwyno’r micro:bit i athrawon Cymraeg a fe fyddwn yn rhannu ein hymgyrch cyffrous micro:bit y BBC NextGen – Cewri Codio.
Byddwn yn esbonio beth sydd ar gael i ysgolion a sut i gofrestru ar gyfer rhodd micro:bit y DU. Byddwn yn eich cyfeirio tuag at gymorth a hyfforddiant am ddim ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am yr ymgyrch.