Skip to content

Nodweddion: Mewnbwn sain

Nodweddion

Mewnbwn sain

Darganfod sut i ddefnyddio meicroffon parod y micro:bit newydd i reoli'ch rhaglenni a mesur seiniau o'ch cwmpas

Mae gan y micro:bit newydd â sain synhwyrydd meicroffon parod. Gall ymateb i seiniau uchel a thawel, a mesur pa mor swnllyd yw'ch amgylchedd hefyd.

Mae'r meicroffon ar gefn y micro:bit newydd, ac ar y blaen byddwch yn dod o hyd i LED meicroffon newydd wrth ymyl y twll sy'n gadael i'r sain ddod i mewn. Mae'n goleuo i ddangos i chi pan fydd eich micro:bit yn mesur lefelau sain.

Bydd y prosiectau hyn yn eich rhoi ar ben ffordd i greu cod gan ddefnyddio'r meicroffon:

Archwilio prosiectau meicroffon
Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.